Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (159)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45
munud)
|
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb cychwynnol
Llywodraeth y DU i adroddiad comisiwn Silk ar ddiwygio trefniadau
ariannu Cymru (45 munud) Dogfen Ategol
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cynnydd o ran Troi Tai'n Gartrefi (30 munud)
Dogfen Ategol
|
6 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:
Teithio at Ddyfodol Gwell - Fframwaith Gweithredu a Chynllun
Cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr (30 munud) |
7 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Creu
Cymwysterau Cymru (30 munud) |
8 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y
Cyfleoedd a'r Heriau y mae'r Sector Coedwigaeth yng Nghymru yn eu
Hwynebu (30 munud) Dogfen Ategol
|
9 Dadl: Cymorth i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru (60 munud) NDM5343 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi: a) gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog; b) y Pecyn Cymorth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru; c) y gwaith sy’n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae Pecyn Cymorth diweddaraf Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar gael o’r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/armedforces/packagesupport/?skip=1&lang=cy
Cynnwys is-bwynt a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: pwysigrwydd Dydd y Cofio o ran ein hatgoffa am aberth yr unigolion hynny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'r rheiny yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau neu a brofodd newid diwrthdro yn eu bywydau yn sgil gwrthdaro ers 1914; Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: bod Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar y gorwel a bod angen diogelu ein Cofebion Rhyfel; Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: ac yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflwyno Cynllun Cerdyn i Gyn-filwyr, yn unol â'r addewid a wnaed 2 flynedd yn ôl. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: anghenion cymhleth ac amrywiol Cymuned y Lluoedd Arfog. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y gwaith rhagorol y mae mudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol a noddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud o ran ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori'r gwaith hwn yn ei fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu Cynllun Grantiau'r Cyfamod Cymunedol, gwerth £30 miliwn, y mae Llywodraeth y DU wedi'i lansio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael i gymunedau lleol gryfhau’r cyswllt a’r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach y maent yn byw ynddi. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y GIG i alluogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma gael gofal priodol, gan gynnwys mynediad at arbenigwyr a chymorth brys a seibiant digonol. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael y driniaeth feddygol flaenoriaethol y mae ganddynt hawl iddi drwy drefnu bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn rhoi dull cyson ar waith ar gyfer adnabod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog; i sicrhau bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo; ac i fonitro'r gwaith o ddarparu'r hawl honno. Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu polisi comisiynu cam wrth gam ar gyfer darparu aelodau prosthetig o’r corff i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru a gwneud gwelliannau i'r gwaith o gynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau prosthetig yn gyffredinol. Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn sefydlu perthynas â Chanolfan Adferiad Meddygol y Gwasanaeth Amddiffyn yn Headley Court. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2013